Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Fe roddai 'i gyfrif yn ei bryd,
A chrafai'r byd heb och,
A'r llwdwn du a'i famog wen
Yn crafu'r gefnen goch.
A phan ni chlywid mwy ei drwst
Na'i ffrwst ar war y ffridd,
Fe ddeuthai gŵr i ben ei raff,
A phagan praff i'r pridd.
Chwyrnu'r hir hwyr yn set y llan
Ni ddaeth i'w ran erioed,
Ond aeth brynhawngwaith at y llu
Sy'n cysgu'n swn y coed.