Prawfddarllenwyd y dudalen hon
IX. Y CANTIN GWLYB.
TRWY'R mwrllwch cynnes gweli fyrddau hir
A phoblog feinciau'n gwegian ar bob llaw;
A chlywi orfoledd yfwyr uwch eu bir
Fel llanw môr tymhestlog. Oddidraw,
Uwch storom pleser, trebl y biano fwyn
Fel meinlais eos seinia'n lleddf neu lon
Alawon pob rhyw werin hen, nes dwyn
Hyfrydwch dagrau i rywrai. Ger dy fron
Cei weled mingam wŷr y fynych winc
Yn sobor-sisial wrth lygadrwth rai
Gyfrinach duwiau. Olaf ti glywi dinc
Y llestri gweigion sy'n cyhoeddi'r trai
Ar ol y llanw, lle mae'r gwerthwyr brag
Yn godro'r gwaelod o'r barilau gwag.