Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XIV. GWANWYN.
(Cân y Cigydd).
AR ol y tywydd garw,
Yr eira llaith a'r lluwch,
'Rol cyffro rhaffu'r tarw
A throi rhyferthwy'r fuwch,
Daeth gwanwyn a'i ysgafnwaith
A'i dywydd meddal mwyn,
A cheir difyrrach llafnwaith—
Dirwgnach ydyw'r ŵyn.
Pan welwyf dan fy nwylo
Gnu cyrliog yn y llaid,
Paham y dylwn wylo
Uwchben yr hyn sy raid?
'R ol byw fel anghenogion
Am eithaf wythnos gul,
Bydd melys gan Gristnogion
Fy seigiau ar y Sul.