Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXII. Y GWYNT. 1

MAE'th chwiban leddf drwy dwll y clo
Fel pibau pagan er cyn co';
Mae'th oernad yn y simdde fawr
Fel utgym yng ngorymdaith cawr.

Mae'th feinlais pêr drwy holltau'm bwth
Fel gorchest Hiraeth ar ei grwth;
Mae'th gryndod allan wrth fy nôr
Yn awr fel dirfawr derfysg môr.

Ond pan agorwyf ddrws i'r traeth
I weld y llanw'n wyn fel llaeth,
Ni welaf undim ond y waun
Yn wyneb lonydd fel o'r blaen.

A chyffro lleuad lawn a ffy
Yn ofer yn y nefoedd fry,
Fel un a rêd o lam i lam
Hyd feysydd cwsg heb ennill cam.