Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXII. Y GWYNT. 2.

Tydi yw'r hynafiaethydd chwim
A ddysg hynafiaeth hiraeth im;
Mwy cynnar yw dy lafar lên
Na llyfrau coll Talhaearn hen.

Pan gasgl dy fiwglau, fel i frwydr,
Fyddinoedd fy meddyliau crwydr,
Cofiaf fy llwyd anghysbell wawr
Cyn bod rhyfeddod Arthur Fawr.

Cofiaf fy nharddle bore gynt,
A nofiaf hen ffynhonau f'hynt,
Pan ddarganfûm dy fod yn bêr
Cyn enwi'r haul na chyfri'r sêr.

Cyn dyfod dydd y ganed ofn
Yn ogofeydd y galon ddofn,
Pan nad oedd bywyd namyn byw,
Pan ydoedd dynion cyn bod duw.