Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIII. YR IBERIAD.

Ha wŷr fy mrodyr! Fel 'roedd hedd
Y ddaear hawddgar ar fy ngwedd
Pan glywn y durtur gylch fy nghell
Yng nghysgod coed y Berwyn pell.

'Roedd yno lonydd, Duw a ŵyr,
'A goleu'r dydd fel goleu'r hwyr;
A chodai'r mynydd wrth fy nôr
Ymhell o'r byd, ymhell o'r môr.

'Roedd yno gordial at bob clwy
Mewn unigeddau fwy na mwy,
Lle rhoddai'r nef i fachgen lleddf
Ddifyrru 'i ddydd yn ol ei reddf,

Ac nid oedd yno ddim rhyw boen,
Ond tristwch mwyn fel hanner hoen,
Pan wylai f' ienctyd moethus, clyd,
Y dagrau difyr cyn eu pryd.