Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXIX. GENETH FACH.
MAE eithaf bymtheng mlynedd
Er pan y'i rhoed mewn bedd;
Ond clir fel petae'r llynedd
Yw'r atgof am ei gwedd
Pan ddifyr ganai fel y gôg
Tan feini Tynyfawnog.
Ac erys co'r ysgariad
Drwy'r maith flynyddau'r un;
Eu rhif ni chyfrif cariad
Di-nam ei mam ei hun;
Ond cael ei chofio'n dair-ar-ddeg
Ni chwennych ddim ychwaneg.