Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXX. DRAMODYDD A NOFELYDD.
HEN awdur mud dramodau
A thirion chwedlau'th iaith;
Nid tros y rhain, dy flodau
A dyfaist ar dy daith,
Ar hyn o gyfle, yr hen gâr,
Yr wylwn o fawr alar.
Ond am roi'th wyneb llawen
Yn druan ac yn drist;
D'ysmaldod dan y grawen,
Dy chwerthin yn ei chist;
Dy holl ffraethineb o dan rô—
Ffraethineb diffrwyth yno.