Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Haul eisoes a giliasai,
Brysiai'r lloer heibio'r sêr llai,
A chlir, drwy'r goedwig achlân,
Hŵtiai llawer tylluau.
A llyna'r olwg,—llain hir a welais,
A chlywed goslef nychlyd, ac islais;
Dihunai f'ofn o dan f'ais, yna fel
Rhyw ofnus awel araf neshëais.

Ac ar y llain 'roedd gwr llwyd;
Ai marw oedd, ai ym mreuddwyd,
O'i wedd yn hawdd ni wyddwn,
Oni thorres iaith o'r sŵn.
A'i lygaid yn wylo gwae dynoliaeth,
Y dwylo anwylai'r delyn alaeth,
Nes dihuno'r beroriaeth chwerw-felys
Y sy'n soniarus yn neusain hiraeth:—

"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg deufyd rhom.
I'r gerddi mêl a'r grudd mau
Mae'r rhôs yn marw o'i heisiau.
Pan welais gyntaf yr hoywaf riain.
'Roedd goch fy neurydd, a gwych fy nwyrain
Syllwn dros y llwyni drain parth â'r coed;
A mynd i'r oed a'm henaid ar adain.