"A llyma lun y fun fau;
Yr oedd fel rhudd afalau
Aeron pêr ei hwyneb hi;
Ba brydferth o werth wrthi?
Cerdded cwrr ydfaes, cwrddyd cariadferch,
Ac is lloer ifanc syllu ar hoywferch;
Dod i gyfarfod f' eurferch, fy mun gûn
A destlus ei llun hyd ystlys llannerch.
"Dymor hud a miri haf
Tyrd eto i'r oed ataf,
A'th wyddfid, a'th hwyr gwridog,
A'th awel chwyth haul a chôg.
A thyrd a'r eneth a'r adar yno,
A sawr paradwys hwyr pêr i hudo
Hyd ganllaw'r bompren heno bob mwynder;
A bwrlwm aber i lamu heibio.
"I deml yr oed mal yr hydd
Mae'n dod ym min diwedydd,
A phlyged hoff lygaid dydd
Wedi 'i gweled, o g'wilydd.
Mae'n dod i'r oed mewn hud a direidi,
Y deilios, chwarddwch yn dlysach erddi;
Chwi awelon llon y lli, dowch mwyach
I chwythu'n llonnach o eithin llwyni.
Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/57
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon