"'Run dryw bach mor iach a rhydd,
A thlawd f'ai cathl ehedydd
Wrth ddyfnder y mwynder mau,
Ddedwydded oedd y dyddiau.
Ac fel mae'r hwyr yn cyflymu'r awron,
Mor ebrwydd hedai tymor breuddwydion;
A'r blodau hwythau weithion yn neshau
Yn rhawd yr oriau i wrid yr aeron.
"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg adfyd rhom.
Pan ddaeth blewyn gwyn i'm gwallt
Ni'm carai'r macwy eurwallt.
Ac yntau yn hardd gynt yn ei wawrddydd
Oedd hytrach yn harddach yn ei hwyrddydd,
Fel mae harddaf, decaf dydd, pan ar fron
Danllyd y donn y lledo'i adenydd.
"Daethai brâd yn adwyth bron,
A dur i lygaid oerion;
Ni'm carai'r macwy mwyach,
Ac yn y nos canu'n iach.
Fe'i gwelwyd yng ngwlad y pomgranadau
A pheraidd aeron anghyffwrdd erwau;
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau."
Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/65
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon