"Yn llygad merch serch a syll
Hyd nes daw y nos dywyll.
Minnau heb fraw yn dawel,
Yr haf ni ddoraf a ddêl.
A chennyf wawrddydd ni chwynaf erddi,
Ba wedd y cwynaf oni bydd cyni?
Os ffy'r haf mwyn o lwyni Hydref pell,
I mi boed gwell am wybod ei golli."
Siaredais eiriau hyder.
Cyd y bu 'roedd cawod bêr
Yn tirion syrthio'n y sain
Ddyry 'hedydd ar adain.
Ciliasai'r gwr megis rhith a lithiwyd;
Ac ef yn dianc, fy hun adawyd.
Sibrydai llais y Brawd Llwyd yng ngwawrddydd
Dlos y boreddydd fel adlais breuddwyd.
Y Brawd Gwyn.
A mi'n gwrandaw mwyn gryndod
Hyd y dail yn mynd a dod,
A'r prennau îr, y prynhawn,
Ym min cwsg mwyn ac ysgawn,
A'r awel sorth, ar ol suo wrthyn',
Yn mynd a'u gadael am ennyd gwedyn,
Rhyw ddieithr ŵr ddaeth ar hyn drwy'r llwybr troed
I deml yr oed, gyda'i ymyl rhedyn.