"Nid oes a ddwed hardded hon:
Ba raid iddi brydyddion?
Eto'r beirdd a gânt i'r bau,
A didlawd yw eu hodlau.
Brwd yw eu sain i'r Baradwys honno,
Ac i Wlad yr Hud, ac E1 Dorado.
Pob rhyw delyn cyn bod co' fu'n datgan
Geined y Ganaan. Gwna duag yno."
A minnau,—"Diau, deuwell
Rhiain fo byw na'r nef bell.
Hyfryd oedd a fu o'r daith,
Nis gwybum eisieu gobaith.
Mae'n deg yr haf, a mwyn yw digrifwch,
Ba raid a fai wrth amgen brydferthwch?
Digon i'r dydd ei degwch. Chwi'r adar
A'r gwenyn cynnar gan hynny cenwch!
"Dall yw Serch. Di elli son
Am ar a wêl marwolion
Yng ngwlad engyl, a dangos
Difarw hud ei haf a'i rhôs.
A Serch llygatlas mewn gwin tan asur
Wybrennydd heulog, heb ran o ddolur
Byd, ac heb wybod cur, megis na bâi
Derfyn i ysbaid yr haf annisbur.
Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/74
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon