Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Od aeth fy Medi eithaf
Gyda'i rug a'i adar haf,
A dyfod cri y dufedd
Am ei ysbail dail dihêdd
A meirwon, ba waeth? Mae'r hen obeithion
Yn rhedeg eilwaith drwy waed y galon.
Os collwyd hen freuddwydion, nid marw chwaith
O theimlais unwaith eu melys swynion.

Didranc, er dod o hydref
A'r haf i gyd rhôf ag ef,
Wedi cauad llygad llaith
Mi welaf y Mai eilwaith.
Mai y rhianedd a'i serch morwynol,
A Mai yn yr oed ym min hwyr hudol;
Mai yn dduw ym min y ddôl, a Mai'n dwyn
Y nyth ar y llwyn, a throell y wennol.

Y Mai a'i arogl mirain
Pan fo'r deilios dros y drain
O gannaid hug ewyn tonn,
Sindal cynhyrfus wendon;
A'i flodau mwynion fel ôd y mynydd,
Ac wynned ag oen ar gnwd y gweunydd;
Gyda'i dawch llygad y dydd, a'i ridens
Melyn yr orens ym mlaenau'r irwydd.