Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ieuanc yw Mai, ac ymwêl
A mwyn yngan min angel,
Dyry olud yr heulwen
A'r hoen coll i'r unig hen:
Dyry hwyr-gerddi drwy yr yw gwyrddion,
A chnwd fioled uwch hen adfeilion;
Cerdd goruwch ceyrydd geirwon trumau maith,
A thramwy eilwaith eu herwau moelion.

Mynych, mynych i minnau
A swyn yr oes yn hwyrhau,
Ymrithia ienctid gwridog
Y llwybrau gynt lle bu'r gôg.
A'm llygad ynghau ar foelni'r gaeaf
Dwys, ym mharadwys y Mai y rhodiaf;
A theg eilwaith y'i gwelaf, nes huno
A myned iddo o'm hûn diweddaf.

Y Brawd Eto

.

I goed yr oed gyda'r hwyr
Minnau euthum y neithiwyr,
A synio wnes yno'n hir,
Ym mhoen o hiraeth meinir.
Minnau dan swyn y munud ni synnais
Ddyfod, fel breuddwyd, un gwynllwyd, gwanllais
O bryd ail i'r Brawd welais, a thristed
A'r blin ei gerdded o'r blaen a gwrddais.