Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gweled fyned i'r fan
Ddau a rwyfodd i'r hafan;
A gwrando'r prydferth chwerthin
A chwarddo merch rudd ei min
Yn beraidd. A bu, a'r ddau heb ohir
Yn rhwyfo'n frwd, a'r haf yn y frodir,
Im dybied im glywed yn glir, o'r làn,
Fy enw fy hunan ar fin y feinir.

A phrudd fu'r deffro heddyw,
A gweld y wâg aelwyd wyw
Heb farwor, ac agoryd
Dôr y bwth ar wacter byd.
Eithr haul oedd yno yn deffro dyffryn
A thwyn, heb ledrith yn ei belydryn.
Nid oedd chwa nac eira gwyn yn aros,
Y ddau, fel y nos, a ddiflannesyn'.

Ac ar y llawnt ger y llwyn
Darogenais dw'r Gwanwyn;
Ac wele, canfod blodyn
O bryd a gwedd y Brawd Gwyn.
Ac o'r prynhawn ger y prennau yno
Deuai mewn siffrwd i'm mynwes effro—
"Pob rhyw delyn cyn bod co' fu'n datgan
Geined y Ganaan. Gwna duag yno."