Onid yw'r hen gwm yma'n rhamantus, Huw? 'Rhamantus, yn wir!" meddai ef. " Gair go fawr am beth mor sâl. Ni weles i fwy o wastraff yn fy mywyd. Dyma i chi'r hen afon ddiog yma, yn ymlusgo fel hyn o ddechre'r flwyddyn i'w diwedd i ddim yn y byd. Be 'di 'r holl ddŵr 'ma da? 'D oes 'ma'r un felin na phandy na pheth o'i chychwyn i Ddyfi. A dyma'r hen fynydde 'ma. Be oedd ym meddwl y Crewr pan 'nath e rhain, tybed? Ddyn bach, 'dydi nhw dda i ddim mor bell ag y gwela i; ma nhw'n rhy syth i ddefed 'u dringo nhw pe bai arnynt borfa; ac am y coed, 'thalen' nhw ddim am 'u torri, coed bedw a chriafol, ac ambell bren derw byr yn geincie o'i fôn. Gwastraff i gyd yn ôl 'y meddwl i." Nid oedd yn Huw Llywarch fymryn o na dychymyg nac afiaith. Cymerai bopeth a welai ac a glywai fel y byddai ar yr wyneb. Pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen—ni fedrai Huw ddarllen gair nac ysgrifennu dim ond ei enw, a thrwy drafferth fawr y dysgwyd ef i ysgrifennu "Huw Llywarch", fel y gallai' signio cheques a phapure ynglŷn â'r plwy'—ie, pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen fe'i hystyriai yn llawn o gelwyddau. Pan oedd yn blentyn ni orfodwyd ef i fynychu nac ysgol bob dydd nag ysgol Sul oherwydd man diarffordd a phell ei gartref. Llindagwyd yn eu mabandod ddychymyg ac arabedd Huw, a phob nodwedd ddynol arall, gan ei nwyd fawr. Y mae'n amhosibl cymdeithasu â pherson nad oes iddo na dychymyg na donioldeb, a threth drom a diflas ydoedd bod yng
Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/100
Gwedd