nghwmni Huw Llywarch oni fyddai eraill yno i gytuno i'w boeni oherwydd ei hynodrwydd. Gwneid hynny'n fynych trwy adrodd pethau chwithig ac anhygoel wrtho.
Pan gollai ddefaid o'i fferm âi i'r Siêd ar arch y Sietwr i geisio'r colledig. Dwg y bugeiliaid, am gylch eang, y defaid crwydr i'r Siêd fel y caffo'r sawl a'u collodd gyfle i hawlio'u heiddo. Bydd y dydd yn fath ar wyl i bob bugail; ceir tipyn o gwrw i'w yfed, daw holl hanes y mynyddoedd gerbron, a bydd miri mawr, a phan geir yno un fel Huw heb fawr o ddawn i weled y digrif a'r eithafol, try rhywun neu'i gilydd i ddychmygu stori i'w boeni a'i gynhyrfu. Un tro, a Huw yno, adroddodd Rhysyn, Lluest Oer, ran o'i brofiad yn Llundain pan ymwelodd â Ned ei fab sy'n cadw Wac Laeth'.
"Y fantes fwya i ddyn, ac i ddyn o fugel yn arbennig," meddai Rhysyn, "ydi mynd i un o'r trefydd mawr i weld y byd".
"Gweld y byd mewn tre!" meddai Owen Parri. "Ma hynny'r un fath â phe bait yn sôn am roi'r hen sir 'ma yn Lluest Oer. Y byd mewn tre! Rhaid i ti siarad sens, Rhys."
"Y mae'n eitha clir, Owen, na fuost ti erioed mewn tre fawr, neu os buost ti, 'nest ti fawr o ddefnydd o dy lyged yno. Y ma'r peth a ddywedes i yn 'i le; mewn tre fawr, digon mawr i fod yn ddinas, mi gei'r byd i gyd, gydag ychydig o eithriade. Meddylia di am unrhyw beth a ddaw i dy ben di, ac mi cei e mewn dinas. 'Wyddost ti am rywbeth mewn siop neu ar