Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fferm, mewn pentre neu dre neu wlad, na chei di mono mewn dinas? Y ma 'na eithriade, un neu ddau; er enghraifft, 'chei di ddim mynydd yno, ond mi gei bopeth sydd ar fynydd. Mi 'weda i eto; mi gei'r byd i gyd, gydag eithriade, mewn dinas; ac mi 'weda ragor, mi gei fwy o fyd arall mewn dinas nag yn unman.

"Gyda'th gennad, Rhys," meddai Ifan Ifans, "'dw i ddim am dorri ar dy sgwrs di, ond ffor' wyt ti'n gneud allan bod mwy o'r byd a ddaw mewn dinas nag yn unman arall?"

"Fel hyn yn union, Ifan. 'R wyt ti'n byw yn ymyl capel Methodus, onid wyt ti? O'r gore; mi fyddin mynd iddo weithe, mi wn, a ma'n debyg i ti glywed rhyw bregethwr neu'i gilydd yn sôn mai pethe i'w datguddio ac nid i'w chwilio allan yw pethe byd arall, hynny yw, nid pethe i'w cyrredd trwy allu dyn ydyn' nhw, ond pethe i'w derbyn oddi uchod. 'R wyt yn credu hynny O'r gore. Yn awr, dyma 'weda i, mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall—mi wyddost, wrth gwrs, na stopiodd datguddio ddim am byth pan sgrifennwyd gair ola'r Testament: O'r gore. Ie, dyma 'weda i—mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall yn dwad yn gynta', fel rheol, trwy ddinasoedd. Y ma pethe wedi newid o'r hyn oedden' nhw yn yr hen amseroedd pan oedd y byd arall yn dŵad i'r byd yma trwy fugeiliaid a phentrefi; 'ddaw e ddim mwyach ond trwy 'sgleigion a dinasoedd.

"Un min nos pan own i yn Llundain, medde Ned fy mab, Nhad, a glywsoch chi erioed am ysbryd-