Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lluest Oer, tan wenu'n foddhaus trwy fwg ei dybaco, yn dywedyd, "Wel, wel, ma llawer math ohonom yn y byd 'ma".

Na, nid oedd Huw Llywarch yr un fath â dynion eraill. Ni pherthynai iddo na bai na rhinwedd; dim ond y bai o ddatblygu i'r hyn ydoedd. Yr oedd nwydau corff a amlygir trwy arferion anfoesol mewn eraill, ac egnion ysbryd a ddatguddir yn gyffredin mewn atgasedd a dial, ac mewn tynerwch a charedigrwydd, wedi eu toddi'n un a llifo'n ffrwd gref a sefydlog i'r un nwyd fawr a lywodraethai ar ei holl fywyd. Gwnâi bethau a ystyrir yn gymwynasgar a phethau eraill a ystyrir yn angharedig; eithr ni theimlai ef eu bod felly, ac nid oes na rhinwedd na bai yn y pethau hyn oni fydd bwriad ynddynt.

Ie, yn sydyn y trawodd y ffaith fi na welais erioed ei debyg, a phrynhawn Sul ydoedd. Eisteddwn ar aelwyd Bryn Bedw a gweled ar fwrdd y ffenestr ddwy gyfrol newydd o Weithiau Ceiriog mewn rhwymiad lledr ysblennydd. A minnau'n gwybod na wyddai Huw air ar lyfr, synnais eu gweled, a gofynnais ym mha le y prynodd hwy. "Eu prynu!" ebe fe, 'Phrynais i monynt; rhyw hen ddyn bach a'u hanfonodd yma." Adroddodd yr hanes.

'Rhyw nos Sul yn y gaea' diwetha, gan nad oedd genny ddim byd i'w 'neud, mi es i'r gwely dipyn yn gynnar rhag llosgi glo a gole, ac mi gysges yn fuan ac yn drwm fel y bydda'i 'n arfer; 'd oes genny ddim amynedd gyda dynion sydd yn dweud 'u bod nhw'n methu â chysgu; 'drychwch ar y 'nifeilied fel ma'