"Yr oedd 'i ddillad e 'n mygu yng ngwres y tân, ac yr oedd e'n edrych mor wan â swclyn newydd eni, a bron yn rhy flinedig i gadw'i hun ar y gader, ond mi fytodd ac mi fytodd, ac mi ddath gryn dipyn yn sioncach. Cychwynnwyd am y pentre, ac ar y ffordd adroddodd 'i helynt, ac yr oedd 'i Gymraeg e 'r un fath â Chymraeg llyfr, mor gorect a phe base fe'n pregethu, a 'wedodd e 'r un gair Saesneg yr holl ffordd; 'falle na wydde 'r dyn ddim Saesneg o ran hynny."
Pregethais yn y bore yn y pentre," medde fe, ac yn y prynhawn yn y Cwm, ac am bump o'r gloch cychwynnais am Soar ar gyfer oedfa'r hwyr; ond pan oeddwn ar ben y mynydd caeodd y niwl amdanaf a chollais y ffordd, ac yna daeth glaw mân ac oer, a bûm yn crwydro o'r adeg honno oni ddaethum at eich tŷ chwi. Dyna fy hanes."
"Ddyn byw," ebe fi, "ma 'n syndod na fasech chi wedi trengi yn yr oerfel a'r glybaniaeth. Pam 'dych chi'n peryglu 'ch hun gyda'r pregethu 'ma a chithe 'n gorff mor drwm: Treiwch rywbeth arall lle gellwch chi fod yn 'ch unman, a than do, i ennill eich bywolieth. Wel, dyma'r tŷ, a mi fynna'i 'ch gweld chi'n saff cyn troi'n fy ôl. Ymhen rhyw wythnos dyna'r ddau hen lyfr bach 'na 'n dŵad yma trwy'r post, a 'rwy 'n deall mai ef a'u hanfonodd."
"A gaf fi edrych ar y llyfrau, Huw Llywarch?" Cewch, yn eno'r tad; 'drychwch faint a fynnoch arnyn' nhw.'