YR HEN GYRNOL
GWYDDWN am yr Hen Gyrnol ers rhai blynyddoedd, ond ni fuaswn yn ddigon agos ato i dorri geiriau ag ef, dim ond yn ddigon agos i'w weled, a'i glywed yn siarad ar uchaf ei lais. Methwn yn fy myw â gwybod paham y gelwid ef yn hen, ac yntau heb fod ond prin wedi cefnu ar ei hanner cant. Nid oedd ychwaith yn ei wedd na'i osgo ddim yn awgrymu henaint. Edrycher arno. Dyn byr ydyw—byr i fod yn filwr—ar ei orau y medr hawlio mwy na phum troedfedd a saith modfedd, ac nid oes ddewin a ŵyr trwy ba ddyfais y tyfodd yn gyrnol; rhoddir pris mawr ar hyd corff ym myddin Prydain. Dyn byr, ysgafn, ag wyneb gwritgoch ydyw, a'i lygaid gwinau 'n aflonydd ac yn pefrio fel sêr ar nos o rew. Y mae ganddo ar ei wefus uchaf drwch da o flew wedi'u rhannu'n ofalus ac yn saethu allan yn ddau bigyn syth, fel dau ysbardun ceiliog gêm, o boptu'i ffroenau. Ni saif yn llonydd am eiliad, ac y mae ei gerdded bob amser fel petai ar gychwyn rhedeg. Paham y gelwir un mor sionc, ac ieuanc o ran ei bopeth, yn hen? Yn y flwyddyn 1914 yr aeth yn filwr ac y gwnaed ef yn gyrnol, a chan nad oes fwy nag un mlynedd ar bymtheg er hynny prin mai nifer blynyddoedd ei filwriaeth yw'r rheswm am yr ansoddair hen.