Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Unwaith y clywais ef yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus, ac er na ragorai o ran nac iaith na meddwl na thraddodiad, cafodd ddylanwad rhyfedd ar y gynulleidfa. Eglurodd imi ar ôl hynny nad oedd ei iaith bob dydd ef yn gymwys i gyfarfod cyhoeddus, ac na feddai ef iaith ond honno, ond pe cawsai ryddid i ddefnyddio'i ansoddeiriau cryfion arferol na fuasai fawr o dro'n rhoddi'r lle ar dân". Cyfarfod ynglŷn â'r ex-service men ydoedd, yn neuadd y dref. Maer y dref oedd yn llywyddu, siopwr cefnog ac iddo ddau fab a oedd yn rhy brysur yn y siop i ymladd yn y Rhyfel Mawr—gresyn na fyddai pawb yn rhy brysur, fel na byddai rhyfel. Yr oedd y cadeirydd yn ddyn crefyddol a mawr ei barch, ac ni chlywid byth air yn ei erbyn namyn iddo "dorri" ddwywaith, eithr nid oedd hynny'n bwysig wedi iddo gefnu ar y ddrycin—fe gudd cyfoeth lawer o bechodau. Ar ôl araith y Maer galwyd ar Mr. J. Smart Davies—casglwr trethi—i annerch y dorf, a dywedodd yntau fod yn rhaid iddo ef fel swyddog y llywodraeth fod yn ofalus ar ei eiriau. Cyd-ymdeimlai'n fawr â'r "bechgyn" a chynghorai'r rhai tal a chryf i ymuno â'r Force, nad oedd dim yn debyg i fod yn swyddogion y llywodraeth, ac nad oedd yn rhaid wrth na dysg na dawn i fod yn blisman, y caent gyflog campus a dillad da a heirdd, a phan fyddent tua chanol oed, ar ôl gwasanaeth am ryw bum mlynedd ar hugain yn y Force, caent fyned i'w dillad eu hunain a'u hiawn bwyll a bod fel dynion eraill; ac yna, byw am byth ar bensiwn mwy na chyflog naw o bob deg o weinidogion yr Efengyl. Yn nesaf caed cân gan