Jones, y teiliwr, "Bendithiaist Goed y Meysydd ". Yn dilyn caed araith danllyd gan y Cynghorwr Fred T. Gibbins, yn condemnio'r Llywodraeth a'r Cynghorau Sir, y cyfoethogion a Lloyd George, am na fuasent yn cyflawni'u haddewidion i'r "bechgyn" Canwyd y dôn boblogaidd "Cwm Rhondda" gan yr holl gynulleidfa; wedyn, araith Saesneg gan ferch Ap Myrddin, llywydd y Cymrodorion; ond ar ganol yr araith bu gweiddi mawr am "Yr Hen Gyrnol ". Ar ôl ei wthio i flaen y llwyfan dywedodd y Cyrnol
Mr. Cadeirydd ac annwyl gyfeillion.—Areithydd anghyfarwydd wyf fi, fel y gŵyr pawb, a byddai'n well genny'r boen o wrando ar eraill na'r pleser o siarad fy hun. Ffarmwr ydw i ac ex-service man—dyn wedi arfer trin tir a magu anifeiliaid a siarad â'm gweision a'm cŵn. Yr wyf yn dipyn o filwr hefyd, a gwyddoch na fûm erioed yn fyddar pan fyddai galw, a gŵyr y Germans hynny hefyd. Mi freuddwydiais neithiwr fy mod yn y ffosydd, fel y bûm ganwaith, a mi welais wynebau rhai ohonoch yno gyda mi. (Cymeradwyaeth). Yn awr, yr wyf am wybod faint o'm bechgyn i sydd yn y gynulleidfa yma. 'Newch chi sefyll ar eich traed: Cyfrifwch hwy, Mr. Cadeirydd. Faint—pymtheg ar hugain: Feri wel; pymtheg ar hugain, a phob un dan ei greithiau fel mi fy hun. Mi glywais yn ddiweddar fod rhai o'r "bechgyn" mewn amgylchiadau drwg a'u plant yn diodde. Nid wyf fi am feio'r Llywodraeth na Lloyd George na neb; y mae helyntion y byd fel tywyllwch yr Aifft i mi; ma'r amgylchiade uwchlaw deall pawb ohonom;