Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond myn gafr, cyn y caiff neb o'm "bechgyn" i ddiodde, mi werthaf Gelli Ifor a'r ci ola' o'r pac, ac af yn dlawd fel chithe, a chaiff y llwynogod dragwyddol heol. (Cymeradwyaeth fawr). 'Nawr bois; y mae genny air neu ddau i'w ddweud wrthych chi. Yn gynta', peidiwch â byw ar y dôl, os yw'n bosibl; y mae byw ar y dôl yn lladd blas ar waith ac yn difa annibyniaeth dynion. Os oes rhai yn diodde, dewch i lawr i'r Gelli cyn mynd ar y dôl, a mi gaf weld beth a allaf wneud. Peth arall, peidied yr un ohonoch ag ymostwng i drampio'r wlad o ddrws i ddrws i werthu papur sgrifennu i adferteisio'ch hunain fel ex-service men; gwaith i'r diog a'r llwfr ydyw hwnnw. Peidiwch â gwneud capital o'ch aberth neu mi dynnwch y llewyrch oddi arno. Un gair eto cyn terfynu, Mr. Cadeirydd. Fechgyn, gadewch inni sefyll a symud ysgwydd yn ysgwydd fel yn y Rhyfel Mawr—symud i ymladd brwydrau heddwch—a mi af ar fy llw y byddwn yn fwy na gorchfygwyr." (Gweiddi mawr).

Dyna'r Hen Gyrnol i'r dim," ebe rhywun yn f'ymyl.

Amgylchynir Gelli Ifor, cartref y Cyrnol, gan dyddynnau a thai gweithwyr am bellterau gymaint ag a wêl dyn yn eglur â llygaid noeth. Nid yw'r tir yn fras, a chan nad oes fynydd i fagu defaid, yr hyn a dâl yn well na dim i amaethwr yng Nghymru, disgyn aflwydd yn aml ar y trigolion oherwydd anghaffael ar anifeiliaid neu haf gwlyb, neu'r ddau ynghyd. Eithr cyn gynted ag yr â'r adfyd i glyw'r Cyrnol, gwelir ef yn gadaw Gelli Ifor tan chwibanu "Llwyn