Ar fryncyn noeth filltir o'r Gelli, y mae hen gapel a welodd ddyddiau gwell ddwy genhedlaeth yn ôl, cyn chwalu llawer o'r tyddynnau ac i beiriannau amaethu yrru gweithwyr tir i'r trefydd a'r "gweithe". Un adeg ceid yn y capel gynulleidfa gref ac addoli hwyliog, eithr erbyn hyn y mae bron yn wag. Ni cheir mewn oedfa fwy na deg o hen bobl, gŵr a gwraig ganol oed, a thair hen ferch wedi colli'u hiechyd. Gelwir arnaf, yn ôl y drefn, i wasanaethu yn y capel gwag ac oer hwn un Sul o bob mis drwy'r flwyddyn, ac af yno'n gyson; eithr nid euthum yno erioed heb deimlo fy mod yn pechu trwy fyned, oblegid y mae Eglwys y plwyf daith deng munud oddi wrtho, a chapel y Methodistiaid daith chwarter awr, a gellid rhoddi'r tair cynulleidfa mewn un o'r tair adeilad, ac ni byddai honno'n llawn. Un Sul yn yr Hydref digwyddai tro Harri a Mary Puw i gadw'r mis, ac euthum adref gyda Mary—hwy oedd y gŵr a'r wraig ganol oed. Gwas pennaf y Gelli oedd Harri, ond cwynai ers rhai misoedd a methai weithio. Nid oedd dim o'i le arno, meddai ef, dim ond hen annwyd yn peri gwendid yn ei goesau a pheswch caled ben bore ar ôl chwysu'n drwm drwy'r nos; teimlai'n well bob dydd, a disgwyliai y byddai'n ddigon cryf i weithio eilwaith petai'r tywydd yn gwella. Wrth weled coch cryf ei ruddiau curiedig a gwrando'i besychiad trwm, daeth i'm meddwl linellau Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd coffa i'w unig ferch:—
Y peswch marwol pwysig
Fu'n erlyn i'w derfyn dig;