Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phwy oedd Caligan: O ba le y cafodd ei enw—nid Cymraeg mohono? Cyn hir caed yr hanes. Ychydig dros gan mlynedd yn ôl bellach, chwaraeai nifer o blant ar lan yr afon fach a red trwy waelod y pentref, ac a elwir Afon Solfach. Oherwydd glaw trwm y nos gynt yr oedd lli 'r afon yn fwy nag arfer y diwrnod hwnnw, ac yn hwyl y chwarae syrthiodd un o'r plant, hogyn deallus, byw a direidus, pum mlwydd oed,—i'r afon, a chludwyd ef beth ffordd gan y lli. Yn y munudau hynny digwyddodd i feddwl yr hogyn rywbeth anesboniadwy.

Yr hen ŵr Caligan oedd y plentyn bach hwnnw. Yr oedd yn awr yn tynnu at ddeg a thrigain oed, a’i feddwl o hyd yn aros yn bum mlwydd. Fel dyn nid oedd yn "llawn llathen", eithr fel plentyn yr oedd yn gyflawn. Nid oedd ei ddiffyg namyn diffyg planhigyn heb orffen tyfu. Plentyn—plentyn pum mlwydd —a fu Caligan am y pedwar ugain mlynedd y bu ar y ddaear.

Gwyddel a gefnodd ar ei gartref ydoedd ei dad, ac ni ddychwelodd byth. Cymraes oedd ei fam a fu farw'n ieuanc. Bu yn hir, hir, yn marw; methai ag ymollwng gan bryder ynghylch ei hunig fab bach. Gwyddai mai plentyn pum mlwydd a fyddai hyd ei fedd. Gwlychodd ei gobennydd â'i dagrau, a phan gaeodd ei llygaid yn y glyn, yr oedd gwlith ar ei hamrannau. Gwelodd Duw y dagrau, a chymerodd y mab bach i'w ofal, a gwnaeth ardal gyfan yn dad ac yn fam iddo. Wedi marw Sian Fach, ei fodryb, nid oedd berthynas i Caligan yn yr holl fyd, ond