Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gosodai bwn o'r glo ar gefn pob un, a dychwelyd. Bu'r hen frawd mewn helynt mawr gyda'r asynnod barus ddegau o weithiau ar y daith i'r lofa, ac ar y daith adref fe'i cedwid yn brysur yn codi'r pynnau a syrthiai oddi ar gefnau'r asynnod. Diau mai'r llafur caled hwn a barodd iddo wargrymu cymaint yn ei hen ddyddiau. Ei dâl am y llafur a'r gofal ydoedd ceiniog yr asyn. Ataliesid gwaith yn y lofa fach, a daethai galwedigaeth Caligan fel gofalwr a gyrrwr i ben ychydig o flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, ond parhaodd ef i feddwl yn uchel o'i swydd, a rhoddes orchymyn i'r saer pan ddeuai galw arno i wneuthur ei arch am ofalu rhoddi ar y caead y geiriau,

"Edward Callaghan,
Coal Merchant Bach (retired),
Aged, 67."

O derfyn ei waith fel "Coal Merchant Bach" hyd derfyn ei oes, bu yn negesydd y pentref. Ymddiriedai pawb ynddo, a gwnâi yntau'r negesau â difrifwch ac ynni meddwl plentyn pum mlwydd. Hen gorff, tros ddeg a thrigain, ac asbri hogyn bach yn ei ysgogi'n ddiarbed. Ni wybu beth oedd diogi; mynd, a mynd, fel plentyn, o fore gwyn hyd nos, ac ar derfyn dydd, fel plentyn eilwaith, syrthio i gwsg dwfn a difreuddwyd.

Gwyddai Caligan ddau emyn, neu'n hytrach, emyn a chân; emyn mawr Robert ap Gwilym Ddu:—

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio,"