a chân gasglu calennig; pethau a ddysgodd ei fam iddo cyn damwain yr afon. Canodd lawer ar y rhain ar hyd ei oes. Parhaodd i gasglu calennig hyd y diwedd, a chasglu fel y cesglid pan oedd ef yn blentyn.
Y mae pentref Solfach yn anghysbell ac anhysathr, heb glywed sŵn trên erioed, ac yn ymestyn fel petai'n awyddu ffoi i'r môr mawr rhag i ferw a sŵn y byd o'i ôl yn y pellter ei oddiweddyd. Sieryd y plant heddiw Gymraeg llyfn a swynol Penfro oesoedd yn ôl, ac ymdry hen arferion yno'n hir wedi eu marw ym mharthau eraill Cymru. Yn nyddiau bore Caligan, arferid hela'r Dryw a'i gludo mewn tŷ bach o risgl y derw o ddrws i ddrws wrth gasglu calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Parhaodd Caligan yr hen arfer hyd ddiwedd ei oes; bu byw arferion ei bum mlwydd cyntaf am bedwar ugain mlynedd.
Tŷ bach, rhyw ddeunaw modfedd o hyd ac wyth modfedd o uchder â dwy ffenestr fach a drws rhyngddynt, wedi ei wneuthur o risgl y derw a'i wisgo â rhubanau o bob lliw ydyw Tŷ'r Dryw. Ceir un ohonynt yn Amgueddfa Caerdydd. Y mae traddodiad ym Mhenfro, ac yn arbennig yn ardaloedd Solfach a Thŷ Ddewi, bod y dryw bach yn aderyn nodedig a phwysig iawn ym mywyd yr hen dderwyddon. Chwanegid at ddyletswyddau eraill derwydd y gwaith o benderfynu materion cyfreithiol. Ef a eisteddai ar y fainc i farnu pob cweryl a throsedd, ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd dywedai i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd iddo; ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. O dipyn i beth chwerwodd y