Prawfddarllenwyd y dudalen hon
werin at y dryw oherwydd ei ystyried yn fradwr, ac erlidid ef yn greulon. Bu "hela'r dryw" mewn bri ym Manaw ac Iwerddon yn ogystal â Chymru ar amserau arbennig. Helid ef yng Nghymru ar wyliau'r Nadolig a'r Calan, a phan ddelid ef, fe'i dygid yn y tŷ bach o ddrws i ddrws, gan geisio calennig, a chanu y gân hon:—
CÂN Y DRYW.[1]
DOH G. (Nos Gŵyl Ystwyll...)

Dryw bach ydy'r gŵr,
Amdano mae stŵr;
Mae cŵest arno fe
Nos heno 'mhob lle.
Fe ddaliwyd y gwalch
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.
Fe dorrwyd i'r tŵr,
A daliwyd y gŵr;
Fe 'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.
- ↑ Cefais y gân gan Mr. H. W. Evans, Y.H., F.R.A.S., Solfach.