Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Caligan," meddai Mr. Davies, "a ddowch chi i'n tŷ ni i de yfory?"

"Thanci mawr, Mr. Davies; mi ddo i"

"Erbyn pedwar, Caligan.'

"O'r gore, Mr. Davies; 'rw i 'n siŵr o ddwad."

"Fe fydd acw de iawn, Caligan—digon o fara menyn a theisien a jam a phopeth."

"Mi ddo i, Mr. Davies, cyn pedwar hefyd."

"Mi fydda i yn eich disgwyl, ac wedyn, ar ôl te, bydd raid i chi ddyfod i'n capel ni i'r oedfa."

Bu Caligan yn fud ac yn edrych ar ei draed yn hir, ac yna, codi 'i ben ac edrych â'i lygaid plentyn ym myw llygaid y gweinidog, a dywedyd,

"Mr. Davies, fydd arna' i ddim eise te yfory."

"O, wel, yr ych chi wedi addo, a dim iws i chi dorri 'ch addewid."

"Ie, ie, Mr. Davies, ond ar ôl addo y teimles i na fydd arna' i ddim eise te yfory."

"O'r gore, Caligan, dewch chi acw i de, a chi gewch fynd i gapel Wesle wedyn."

"Thanci mawr, Mr. Davies, 'rw i 'n siŵr o ddŵad—cyn pedwar."

Pan fu farw 'r Achos Wesleaidd yn Solfach yn y flwyddyn 1899, nid ymaelododd Caligan mewn unrhyw eglwys arall, eithr âi ar gylch i gapelau 'r pentref. Hysbysai ddechrau'r wythnos ym mha gapel y bwriadai addoli 'r Sul, ac at bwy yr i âi ginio a the. Ar derfyn oedfa 'r bore âi ar ei union i'w ginio, heb ei ofyn, ac ni chaewyd erioed ddrws arno. Yn nosbarth yr ysgol Sul, darllenai ei adnod yn ei dro, a