Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III
YR HEN GLOCHYDD

NID oedd mynwent gyffredin neu gyhoeddus' yn yr ardal. Cleddid pawb er cyn cof ym mynwent Eglwys y plwyf, ac yn fy nyddiau bore i aethai'r hen fynwent cyn llawned oni fu'n rhaid chwanegu ati ddarn mwy na hi ei hun. Bellach teimlai'r hen glochydd yn dawel ei feddwl o gael tan ei ofal le cyfaddas i gyfarfod â gofyn y plwyf am o leiaf genhedlaeth arall. Claddwyd llawer yn y tir newydd cyn claddu'r clochydd ei hun ynddo, ac ni fu na chweryl na bygwth gwerth sôn amdanynt rhwng awdurdodau'r Eglwys a'r plwyfolion tra bu ef byw; eithr wedi ei farw daeth blinfyd ar bawb, nid o'r Eglwys, ond o rywle nas gwyddai neb. Blinid y trigolion gan ymyriadau dirgel a dieithr ynglŷn â'r fynwent; daliwyd yr holl blwyf â phryder ac ofn. Pan ddewisid man bedd newydd a'i farcio gan berthynasau un y bwriedid ei gladdu, âi rhywun neu rywbeth i'r fynwent berfedd nos a symud y pegiau, a chladdwyd amryw mewn mannau na ddewisasid gan y perthynasau. Bu holi ac olrhain mawr, a cheisio esbonio'r dirgelwch, ond nid i ddim pwrpas. Pwnc mawr