Y farn gyffredin ydoedd na ddysgodd chwerthin, ac ni welodd neb wên ar ei wyneb o'r dydd y daethai i'r ardal yng nghwmni Owain Meirion.
Dichon bod ymddangosiad Lewys ynghyda phrinder elw'i alwedigaeth yn esboniad ar ei benodiad yn glochydd Eglwys y plwyf; ond pa beth bynnag oedd y rheswm, profodd ef ddoethineb y penodiad trwy lwyredd ei ffyddlondeb a'i awdurdod yn y swydd. Nid oedd na rhagorach na phwysicach clochydd yn y deuddeg sir. Fe'i hystyriai 'i hun y nesaf at yr offeiriad o ran pwysigrwydd ymhell o flaen y gweinidog ymneilltuol—a rhywfodd neu 'i gilydd enillodd fwyafrif o'r plwyfolion i deimlo a chredu fel yntau. Croesawai Lewys bob angladd â chroeso mawr, nid oherwydd yr ymhoffai ym marwolaeth neb, eithr oherwydd bod angladd yn gyfle iddo ef amlygu ei awdurdod a'i bwysigrwydd fel clochydd. Hawliai iddo'i hun y fraint o ddewis man pob bedd, a dywedai bethau llym iawn os amheuid ei hawl. Un tro aeth cyfaill a minnau i'r fynwent i ddewis man bedd i berthynas a fuasai farw oddi cartref, ac ebe fi, "Lewys, yr ydym am i'r bedd fod yn y fan hon." Ni chymerodd arno fy nghlywed, ond cerddai'n ôl a blaen, amgylch ogylch, a'i lygaid at y ddaear. "'Waeth i chi heb ymdroi, Lewys," meddwn, " y mae'r bedd i fod yn y fan hon ". Yn araf, araf, trodd ataf ei wyneb gwelw, ac edrych â llygaid yn llawn diystyrwch, a dywedyd yn bwyllus â llais isel: "Yr wyt ti wedi bod i ffwrdd am rai blynydde, onid wyt ti, 'ngwas i, ac y mae dy gôf di dipyn yn ddrwg; pan ei di'n ôl adre hola