Gofynnais iddo unwaith paham y penderfynodd aros a chartrefu yn y pentref.
"Wel," meddai, "teimlo wnes i 'mod i'n 'nabod y lle."
A fuoch chi yma o'r blaen, Lewys?
Cwestiwn anodd yw hwnna, 'ngwas i; ni fedr neb fod yn bendant ar 'i orffennol. Pan gyrhaeddodd Owain Meirion a minnau i'r pentref acw tuhwnt i Ddyfi, ac i mi edrych tuag yma, mi gymerwn fy llw 'mod i 'n 'nabod y lle. 'Owain,' ebe fi, rhaid i ni groesi i'r ochr draw'. 'Croesi!' meddai fe, be andros sydd arnat ti, Lewys? ond tydan ni wedi setlo i fynd yn syth bin trwy Faldwyn yn ôl i'r Gogledd, ac y mae'r ochr draw yn dechra'r De.' Wedi cyrraedd yma, mi deimles ar unwaith fel petawn i gartre o'r diwedd, a'm bod yn gyfarwydd â'r holl fro, dim yn y byd yn ddiarth yn na'r Graig Fawr na Chors Fochno na dim arall, a mi deimles hen anian crwydro yn marw ynof. Bore trannoeth, meddwn i wrth Owain, 'Y mae rhyw chwant mawr a rhyfedd arna' i am aros yn y lle hwn, ac y mae Marged a minnau am wneud ein cartre yma.' 'O'r gora', ebe fe,' mi af inna ymlaen i Lambad ar gyfer Ffair Dalis
A ych chi'n credu mewn trawsfudiad eneidie, Lewys; mae'ch siarad yn awgrymu hynny?
"Credu ym mheth? Trawsfudiad eneidie! P'le ar wyneb y ddaear yr ych chi, pobol y capeli, yn cael gafel ar y geirie mawr a thywyll yma? Trawsfudiad eneidie, yn wir! Rhai garw am eirie mawr ych chi.