Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ugain mlynedd wedi claddu'r Hen Glochydd bu farw'r clochydd newydd yntau, a phegiwyd man ei fedd. Yn hwyr noson y pegio digwyddai i'r Doctor Dafys fyned adref heibio i'r fynwent, ac er ei fraw tybiodd weled, yng ngolau gwan y lloer, hen ŵr tal â pheth crymu yn ei war, a jim cro yn tynnu at ei wegil, yn llusgo symud o gwmpas man y bedd newydd. Pan dorrodd y wawr yr oedd y pegiau wedi'u symud.