IV
MARI AMOS
MOR fawr ydoedd gwres a dylanwad Diwygiad 1859 ar ei gychwyn fel yr enillwyd at grefydd bawb yn y plwyf ond dau, a Mari Amos ydoedd un o'r ddau. Aeth hi drwy'r gwres i gyd heb doddi dim, a hwyrach y bu i hynny brofi nad oedd y dylanwad yn anorchfygol.
Ni thywyllai hi ddrws lle o addoliad byth, eithr yn y rhagolwg ar ei chladdu dywedai pan ofynnid iddi mai Eglwyswraig ydoedd, oherwydd tybio bod proffes felly yn angenrheidiol i'r diben o sicrhau offeiriad i wasanaethu yn ei hangladd. Cyffesai'n aml fod ei byd yn un caled a'i hanghenion yn fawr, ond na theimlodd erioed angen arbennig am grefydd, ac na welai reswm o gwbl tros ymboeni ynglŷn â phethau byd arall a phethau'r byd hwn yn gofyn cymaint o amser ac ymdrech. Nid oedd moesau Mari yn ddrwg, ag eithrio'i hiaith; yr oedd yn onest a geirwir, ac nid oedd ei hiaith yn rheglyd, eithr defnyddiai eiriau bras a garw a swniai yn ddigon tebyg i regfeydd, a llefarai'n syth a hy. Ond gan na phroffesai grefydd o fath yn y byd, ac na fynychai addoldy, ystyrid hi 'n fath ar bagan.