a ddaw, eithr credai â'i holl nerth yr ymyrrai rhyw fodau anweledig a gelynol â bywyd y ddaear i'w ddrygu. Ganddi hi y cefais i gyntaf hanes Yr Hen Wrach."
Pan oeddwn yn fachgen bu ein teulu ni yn byw am flynyddoedd y drws nesaf i Mari, ac er iddi felltithio llawer arnaf am fy nireidi bachgennaidd, ni ddaeth niwed o'r melltithion, a phan dyfais yn ddyn rhoddai imi fwy o ffafr nag i neb o'm cyfoedion. Bob tro yr ymwelwn â'r ardal ar fy ngwyliau, galwn i weled Mari, nid yn unig er mwyn yr hen amser gynt, ond hefyd i'r diben o glywed pob hanes hygoel a chwithig a gerddai drwy'r plwyf. Derbyniai fi bob amser a geiriau geirwon a chaled, a gallai dyn dieithr dybio ei bod yn casáu fy ymweled, eithr gwyddwn mai trosedd anfaddeuol fyddai i mi fyned o'r gymdogaeth heb ymweled â hi. Credai'n gadarn bob coel ofer fu yn yr ardal am genedlaethau, a llefarai amdanynt mor agored a phendant ac â chymaint hwyl â sant yn adrodd ei brofiad mewn seiet. Yr oedd y coelion i gyd yn ddiddorol ac yn taflu goleuni ar fywyd y plwyf; yr oedd hefyd lawer mwy ynddynt nag a dybid yn gyffredin, ac un felly oedd y goel am yr HenWrach.
Blinid trigolion y pentref er cyn cof—pob teulu yn ddieithriad—gan afiechyd blin a elwid yn "Hen Wrach". Math ar gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod. Gwn trwy brofiad am y clefyd hwnnw. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, ac yna deuai cryndod mawr trwy'r holl gorff a pharhâi am oddeutu awr. Unwaith bob pedair awr ar hugain y