deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am chwe neu wyth niwrnod, a phan ddechreuai'r claf wella ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna, ddau ddiwrnod, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu o ran rhif oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Achosid yr afiechyd gan ellylles a breswyliai yng Nghors Fochno, a rhoddwyd ei henw i'r clefyd—Yr Hen Wrach. Cefais ei hanes yn llawn gan Mari Amos.
Un nos oer ym mis Rhagfyr, a heb fod ymhell o'r Nadolig, yr oeddwn yn nhŷ Mari, hen dŷ llawr pridd â dau ben iddo—pen isaf a phen uchaf ac yn agored hyd at lechi'r to. Eisteddem boptu'r tân-ar-lawr, tân mawn, tan y simdde fawr, heb ddim ond golau'r tân. I osod Mari mewn hwyl, ebe fi, "Y mae'n debyg eich bod yn cymryd ambell fygyn o hyd, Mari". "Wrth gwrs, be ti'n gofyn peth mor ddwl:" meddai hi.
"A phan bydda' i yn smocio mi fyddaf yn smocio baco, baco Ringer, ac nid gwellt fel ti a dy fath". Ar ôl tanio'r pibelli aethpwyd i sôn am bobl y pentref a chael bod Lewys y clochydd a Marged ei briod yn "Yr Hen Wrach".
"A wyddoch chi rywfaint o hanes yr Hen Wrach, Mari Amos?"
Gwybod ei hanes! Och yn 'i chalon hi; gwn yn burion, ac mi fyddet tithau'n gwybod oni bai dy fod yn ddylach na phobol eraill. Hi, yr hen feiden felltigedig, ydi melltith y pentre yma ers oesoedd, ac erioed am 'wn i."