Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Peth od na fuasai Consurwr Llangurig wedi rhoddi terfyn arni hi a'i drygau."

"Consurwr! Cwnjer 'wyt ti'n feddwl, mae'n debyg. Y mae cwnjer yn medru gwneud pethe rhyfedd ac ofnadwy, ond y mae hon allan o'i gyrredd. Petai'r Hen Wrach fel rheibese eraill mi barai'r cwnjer i ddrain dyfu ar 'i phen yn lle gwallt, ac mi droise'i chroen hi y tu chwith allan, a rhoddi iddi gryndod a sigle Gors Fochno am filltiroedd. Ond fel ma gwaetha'r modd, 'di hon ddim fel rheibese cyffredin, y mae'n fwy, ac yn fwy cythreulig, a 'd oes gan y cwnjer, er cymaint ei allu, ddim awdurdod trosti— y mae hi allan o'i gyrraedd."

Fel hyn y mae'r traddodiad a gefais gan Mari Amos. Yng Nghors Fochno, sydd o chwech i saith milltir o hyd a thair ar ei thraws, preswyliai gwrach hen a hyll a dieflig ei nwyd a'i gweithred. Yr oedd yn gwbl annibynnol ar ddynion am fod iddi ei chynhaliaeth, ac ymborthai ar ffa 'r gors a bwyd llyffant, ac weithiau liw nos gwelid o'r pellter olau gwan a gwelwlas ei channwyll pan fyddai'n casglu'r ymborth. O fewn terfynau'r Gors yr oedd yn hollwybodol ac yn hollalluog, a'i melltith yn ddifeth pan gyrhaeddai fod dynol, eithr nid oedd a'i drygai hi. Oherwydd ei hacrwch annaturiol, ymguddiai'n ddwfn yn y Gors rhag ei gweled gan ddynion, ond ar brydiau creai niwl tew a wisgai'r Gors fel hugan ac a ymestynnai dros y pentref i odre'r Graig Fawr. Ar adegai felly, berfedd nos, âi o'i chuddfa i'r pentref tawel, i dŷ drwy'r agorfa leiaf, ac i ystafell wely a chwythu yn