ddistaw ac esmwyth ei melltith ar y sawl a gysgai, a deffroent hwythau yn y bore yn crynu fel dail y coed yn yr Hydref. Byddent yng nghrafangau mileinig yr Hen Wrach.
Bymtheng mlynedd ar hugain yn ôl diflannodd y cryd, ac ni flinwyd neb o'r trigolion byth er hynny, a chredir yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf flwyddyn y peidiodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer cyfnewid ym mywyd y pentref, ac yn eu plith, aethpwyd i losgi glo yn lle mawn. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau a theifl ei melltith fel cynt ar ddynion, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto.
Un diwrnod yn y gwanwyn, ni welid mwg o simdde tŷ Mari Amos. Torrwyd i mewn a'i chael wedi marw yn ei dillad, ac yn lled—orwedd ar yr hen setl fregus a oedd tan y simdde fawr. Bu farw o'r Hen Wrach. Ar ôl ymgynghori â'r offeiriad a'r ysgolfeistr a Mr. Parri 'r plisman ai priodol ei chladdu mewn tir cysegredig, cludwyd hi fel eraill i fynwent y plwyf y sydd ar ynys yng Nghors Fochno.