sawl a dueddai at y wedd Galfinaidd. Dilynid y gwersi rheolaidd hyd dri o'r gloch, ac yna ceid chwarter awr i holi'r bennod yn gyhoeddus; gwelais y dadlau cyn boethed fel yr âi'r chwarter yn awr gron a thros hynny weithiau. Byddai'r ddadl yn aml rhwng Richard Evans a John Cati Williams. Dyn byr, crwca braidd, ag wyneb cuchiog oedd Jac Cati Williams, a llefarai â llais cras a phob amser fel dyn o'i go', ac oherwydd ei ysbryd cnafaidd, ac y cnoai ei gil fel eidion, er nad oedd dim yn ei enau, parai imi feddwl bob amser am Quilp, un o gymeriadau hynod Charles Dickens. Un cryf mewn dadl oedd Jac, eithr mewn hanes yn unig yr oedd ei nerth, ac yn hanes yr Hen Destament yn arbennig, ac oherwydd hynny trechai Richard ef bob cynnig ar bwnc o athrawiaeth. Ni rwymai Richard ef ei hun yn dynn wrth na llyfr na phregeth, ac yr oedd ganddo rai syniadau a berthyn yn nes i'r oes bresennol nag i'w ddyddiau ef, a mynegai hwy weithiau mewn dull cwmpasog ac amleiriog. Pwnc yr holi un prynhawn Sul oedd, cosb yn y byd a ddaw.
"Beth yw eich barn am gosb yr annuwiol ar ôl iddo farw?" gofynnai'r holwr.
"Cosb gyfartal i'r trosedd," meddai John Dafys, Pencae.
"Ie, ond beth yw ei pharhad?
"Tragwyddol," ebe John Morris, Llanerch,—"A'r rhai hyn a â i gosbedigaeth dragwyddol ".
Beth yw meddwl y gair tragwyddol yn y geirie yna?