gynulleidfaoedd gogledd Ceredigion, ond nid aeth byth yn weinidog. Dywedai ei gyfoedion na chafodd degwch na chyfiawnder gan y gweinidog a oedd yn arolygu'r Gylchdaith ar y pryd. Tybid yn gyffredin mai eiddigedd oherwydd poblogrwydd y dyn ieuanc oedd wrth wraidd esgeulustra'r gweinidog. Y mae hyn yn bosibl, oblegid ceir llawn cymaint, onid mwy, o eiddigedd ymhlith pregethwyr ag a geir mewn dosbarthiadau eraill. Ni soniodd Richard wrthyf erioed am y cam hwn yn ei ddyddiau bore. Un tro pan ofynnais iddo paham y peidiodd â phregethu pan oedd yn fachgen, atebodd, Mi fydda'i 'n meddwl weithie mai Rhaglunieth oedd wrth wraidd y cwbl, yna, ac nid yw Duw byth yn gwneud mistêc. Petai Humphrey Jones wedi 'i dderbyn i'r weinidogaeth 'âi e byth yn Humphrey Jones y Diwygiwr, oblegid 'âi e byth i 'Merica oni bai iddo golli 'i le, ac nid yw Duw yn gwneud diwygwyr o rai wedi colli 'u lle; a phetai Evan Jones wedi 'i wneud yn weinidog Wesle 'âi e byth yn gyfoethog fel yr aeth e, a phetawn inne wedi mynd ymlaen 'faswn i ddim—wel, 'faswn i ddim yn Richard Evans y Crydd, yna." Eithr dywedodd wrthyf ym mlynyddoedd olaf ei oes y credai 'n sicr mai yn weinidog y bwriadodd Duw iddo fod.
Ni wyddai neb yn sicr pa fodd y câi Richard Evans ddeupen y llinyn ynghyd; ond fe'i câi, oblegid ni chlybuwyd erioed ei fod yn nyled neb o ddim ond garedigrwydd. Ni wnâi ddim gwaith, eithr ymddangosai bob amser yn brysur; cerddai'n gyflym â'i ben i lawr a mwmian wrtho'i hun, a phan safai i