siarad â rhywun teimlid o hyd ei fod ar gychwyn eilwaith bob eiliad. Pan fyddai yn ei dŷ, ceid ef yn gyffredin yn y gweithdy yn eistedd ar y fainc grydd å hen ffedog ledr o'i flaen fel petai'n disgwyl gwaith na ddeuai byth. Ofnaf mai prin oedd ei damaid yn aml, ond ni roddai ef byth un arwydd o hynny. Ni cheid un amser siom yn ei wedd na gwg ar ei ael na chŵyn yn ei lais; gwên a chanmol a diolch oedd ei gynefin. Gweithwyr heb fwy nag wythnos rhyngddynt a'r tloty oedd trigolion y pentref i gyd, ac oherwydd hynny yr oeddynt yn hael o'u prinder a rhoddent swcwr i'r di-gefn—"Haelaf y galon po lymaf y fro". Gofalai pawb am Richard Evans y Crydd, a phe deuai dieithryn ar ddamwain a'i feio am na weithiai, dywedai rhywun neu'i gilydd o'r pentrefwyr yn chwyrn a dreng, "Beth yw hynny i chi: 'D yw e'n pwyso dim arnoch chi". Am ryw reswm anniffiniol, ni ddisgwyliai neb iddo fod yn wahanol i'r hyn ydoedd, ac ni feddyliai neb yn llai ohono am nad oedd fel pawb arall.
Gellid tybio y parai bywyd o'r math hwn i'w ddylanwad moesol fethu, eithr ni wnaeth hynny. Er nad ofnid ef fel yr ofnid Thomas Jones y Post, eto, ciliai'r meddwon rhagddo, a pheidiai'r plant â'u chwarae pan ddynesai ef. Arweiniai'r eglwys, a dilynai pawb ef; cynghorai'r bobl ieuainc, a gwrandewid arno; ac yn y seiet ceryddai'r barus a'r ysgafala, ac ufuddheid iddo. Ymgynghorai'r gweinidog cryf ag ef, a llechai'r gweinidog gwan yn ei gysgod. Yr oedd Richard bach yn ddyn mawr ac yn ddyn gwerth-fawr.