Yn ei hen ddyddiau, pan oedd tua thrigain oed, dechreuodd bregethu eilwaith. Nid oedd llawer o gamp arno fel pregethwr yr eildro; yr oedd yn rhy hen a helbulus i baratoi, ac aethai'n amleiriog a chwmpasog ei ymadroddion; eithr deuai rhyw ddylanwad rhyfedd o'i weddïo. Ar ôl iddo dreulio Sul yng Nghorris unwaith, gofynnais i Owen Roberts pa raen oedd ar bregethu Richard Evans. "Reit dda," ebe fe, "ond gweddi Richard Evans sy 'n fawr; y mae'n werth ei gael o unrhyw bellter er mwyn ei weddi 'n unig". Yr oedd ei gartref hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth—pellter o ddeunaw milltir—a phan âi i un o'r trefydd hyn i bregethu, cerddai fore Sul, pregethai dair gwaith, a cherddai adref ar ddiwedd y dydd. Ni chloai ddrws ei dŷ ar adegau felly, a phan ddychwelai tua hanner nos câi'r tân yn cynnau, y tegell yn berwi a'r llestri bwyd ar y bwrdd crwn. Yn fore trannoeth agorai un o'r cymdogion y drws a gweiddi, "Richard Evans, 'dych chi yna?
"Ydw, ydw" atebai Richard, a dyna derfyn; ni holai byth pwy oedd ei gymwynaswyr, ac ni ddisgwylid iddo wneuthur hynny.
Ni chynhwysai cylch ei fywyd fwy na'r pentref a'r capel, ond yn y cylch hwnnw byddai'n sylwgar a gwybodus iawn; efallai bod ei sylwadaeth a'i wybodaeth yn fwy oherwydd eu cyfyngu i gylch mor fach. Y perygl mewn cylch eang ydyw bodloni ar argraffiadau yn unig. Amlygai weithiau yn ei ddull ysmala graffter meddwl anarferol. Pan soniai wrthyf unwaith am fy mhregethu, dywedai, " 'Rydw i'n cofio llawer