Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

math o bregethwyr yn y pentre yma, rhai da iawn, a rhai . . . wel, rhai cry' a rhai gwan, yna; a mi 'rydw i wedi sylwi bod hyd yn oed y rhai cry' yn gwahaniaethu llawer oddi wrth 'i gilydd. Dyna i ti (enwodd dri). Yr oedd y tri yna yn gry' yn ôl barn y bobol, ac yr oedd gan ddau ohonynt hobi—y cynta' a'r ola’— ond 'doedd gan y llall ddim un. Mi fydda'i'n meddwl y dylai fod gan bob gweinidog ei hobi; mi wnâi les mawr iddo ond gofalu bod rhywbeth ynddi a wnâi les i bobol eraill hefyd, yna. Ma 'na un perygl mawr mewn hobi, sef byw iddi. Meddylia di rŵan fod gweinidog yn gwneud prydyddu a mynd i 'steddfod yn hobi; os na fydd e'n ofalus mi â i fyw i'w hobi, a ma'r hobi yn siŵr o ladd y pregethwr a'r gweinidog. Hobi 'r cynta' o'r rhai a enwes i oedd casglu hen lyfre Cymraeg.[1] Pan fydde fe 'n pregethu yn y Bont Goch y Sul 'welid mono yma hyd ganol yr wythnos, a mi ddôi adre ar ôl crwydro o dŷ i dŷ yng Nghwm Symlog, a Salem Coed Gruffydd, a Phenrhyn Coch a phobman, â'i bocedi yn llawn o hen lyfre na chodet ti monyn nhw o'r domen â phicfforch. A'r hyn sy'n rhyfedd ydi, 'doedd e byth yn 'u darllen nhw, dim ond sgrifennu enwe 'r llyfre a'r awduron, a'r lleoedd a'r blynydde y cyhoeddwyd hwy. Yr oedd e 'n byw i'w hobi, ac oherwydd hynny, yr oedd yr achos yn diodde—neb i ofalu am y seiet Achos yr a'r bobol ifanc, ac yr oedd tipyn o lwydni'r hen lyfre ar 'i bregethe hefyd, yna.

Oni wyddoch chwi, Richard," ebe fi, "fod gwaith y dyn hwnnw wedi'i gyhoeddi yn llyfr mawr,

  1. William Rowlands (Gwilym Lleyn)