Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr ystyria gwŷr dysgedig ef y llyfr gorau sy 'n bod ar hanes llyfrau Cymraeg o 1546 hyd 1800:

"Ma 'n dda genny glywed bod yr hobi wedi bod o fantes i rywrai, yna, oblegid fu hi o ddim mantes i'r Achos yma. Am y llall y sonies i amdano, 'doedd gan hwnnw ddim hobi o gwbl. Dyn trwchus a digyffro ydoedd hwn, heb broffesu gwneud dim ond dyledswydde 'r swydd weinidogaethol, ond 'doedd e ddim yn gwneud y dyletswydde hynny yn well na 'r sawl oedd a hobis ganddynt, nac yn agos cystal â rhai ohonynt. Credid yn gyffredin ei fod yn ddarllenwr mawr, a chredid hynny yn fwyaf neilltuol am ei fod yn ei bregethe yn sôn beunydd am ryw awduron na wydde neb amdanynt, ac yn dyfynnu eu gweithie yn Saesneg. Yr oedd hwn yn ddyn pwysig o ran ei ddull, a dywedai 'i bethau yn ddihidio fel pe na chredai hwy ei hun, ac na faliai pa un a gredai eraill hwy ai peidio, yna. Y syniad cyffredin ydoedd bod llawer ynddo, ond 'weles i fawr yn dyfod ohono, dim cymaint ag ysgrif i gylchgrawn. 'Waeth i ti ddyn gwag yn fwy na dyn â llawer ynddo os na ddaw rhywbeth ohono. Hobi y gweinidog arall, y trydydd, oedd gwneud llyfre, ac mi wnaeth amryw, yna; efallai dy fod wedi gweld rhai ohonynt. Yr oedd yn ddyn galluog iawn, ac mi sgrifennodd lyfr ar "Hen Bregethwyr Cymru ", a llyfr arall yn dweud pob peth am bopeth wrth bawb; ond y peth digrifa' a wybûm i erioed ydoedd iddo sgrifennu llyfr ar Areithyddiaeth" ac yntau 'i hun yn un o'r areithwyr sala'. Yr oedd ganddo bregeth gre' yn llawn meddylie