Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr a champus, ond 'doedd e fawr o draddodwr; champion o feddyliwr, yna, ond fedre fe ddim llefaru 'i bethe yn rhugl a gwresog. Pan oedd yr hen gawr, y Doctor Cynddylan Jones, yn dechre pregethu, mi gerddodd yr holl ffordd o Riw Siôn Saer i Dre'r Ddôl ar fore Sul i glywed awdur y llyfr ar Areithyddiaeth yn pregethu. Ym mhen blynyddoedd mi gwrddes â'r Doctor a soniodd yntau am y peth. 'Wel,' ebe fi, 'beth oedd eich barn amdano fel llefarwr?' Atebodd yn ei ddull trawgar trwy ddyfynnu geirie rhyw Sais,— Up in theory and down in practice. Dyna hobi y pregethwr hwnnw—gwneud llyfre, yna; ond 'doedd e ddim yn byw i'w hobi, ac ni fu gwell gweinidog yn y pentref hwn erioed; fe ofalai am holl waith gweinidog, ac ni wnaeth neb fwy o les, ac fe wnaeth gymaint oherwydd ei hobi, oblegid yr oedd graen lenyddol ar ei holl waith yn y seiet a'r pulpud a phobman, yna. 'Dyw 'r Efengyl, wyddost, ddim gwaeth o gael tipyn o raen llenyddiaeth arni. Mi fydde'n burion peth i tithau ar dechre feddwl am hobi a fydd o help i ti dy hun ac i'r bobol hefyd; ond gofala beidio â byw iddi, yna.'

Gwelodd Richard Evans lawer tro ar fyd, eithr cadwodd galon gynnes a diolchgar a gwên ar ei wyneb drwy'r cwbl i'r terfyn. Gelwais i'w weled ychydig ddyddiau cyn ei farw; daethpwyd â'i wely o'r llofft i'r gegin a'i osod â'i ben at y ffenestr. Yn ymyl y gwely yr oedd bwrdd crwn ac arno win a grawnwin a moddion meddyg, a Richard yn ei wendid mawr yn edrych yn gwbl ddibryder a bodlon.