Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI
BUGAIL LLUEST HIR

"A OES tipyn o hwyl ar y pysgod heddi, Syr?" gofynnai Wmffre Dafydd, Lluest Hir.

"Dim, Wmffre, dim; nid oes codi ynddynt o gwbl ".

"A ga i olwg ar eich plu? O, wel, y ma'r plu'n burion. Y ma llawer ffordd i bysgota, wyddoch, ond 'd oes dim ond un ffordd iawn, a 'chydig sy 'n gwybod honno. Bydd SyrWatcyn a'i ddynion yn dwad i fyny yma weithie, ac yn aros tros y nos, ac os digwydd iddyn nhw ddal nifer go lew o bysgod gwnânt lyn bach yn ymyl y llyn mawr i'w cadw'n fyw hyd y bore, fel y byddan' nhw'n ffres pan fônt yn cychwyn odd 'ma. Fe fydd gan Syr Watcyn y tacle pysgota glana' a weles i yn fy myw, a channoedd ar gannoedd o'r plu gore y gellir eu cael am arian, a 'weles i neb lawer gwell am hudo pysgodyn; y mae'n deall y nac i'r dim. Ma'ch plu chi'n eitha, syr, ond 'dw i'n synnu dim nad ych chi'n dal. 'Wn i ddim a ych chi wedi sylwi bod gwahaniaeth mawr rhwng gŵr bonheddig a phregethwr. Dyletswydd gŵr bonheddig ydi bod yn glyfar ym mhob chware a phob hela i fwynhau 'i