Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun; 'd oes ganddo ddim byd arall i'w 'neud; ond y ma gan bregethwr ei waith, a'i ddyletswydd ef ydi bod yn glyfar yn hwnnw. Fydda i byth yn hoffi gweld pregethwr yn fwy clyfar gyda chware pêl droed a thrin gwn a gwialen bysgota a phethe felly, na chyda 'i bregethu. Wrth gwrs, y ma'n eitha' i bregethwr chware pêl droed a physgota weithe i gael awyr iach ac i ymarfer ei gorff; ma hynny yn lles i bawb, ac yn ôl y 'sgrythur. Yr w' i'n lico tipyn o flas y mynydd a'r afon ar bregeth. Ond ma 'n dda genny, a dweud y gwir gonest, nad ych chi 'n llawer o law gyda'r wialen, achos ma'r Meistr Mawr wedi dweud mai pysgotwyr dynion ydi pregethwyr i fod. Ond mi licwn i'n arw hefyd i chi gael pysgodyn o'r llyn; ma 'na ddigon ohonynt, a rhai cymaint â samons. 'Rhoswch chi i'r haul fynd i lawr ac iddi fynd yn llwyd dywyll, ac mi fynnwn ni'r brithyll glana' a welsoch chi 'rioed."

Gŵr Lluest Hir yw Wmffre Dafydd. Yno, ar y mynydd, y ganed ac y magwyd ef. Delw y mynydd ar ei gorff, ei feddwl a'i iaith. Tua thrigain oed, ychydig yn hŷn efallai. Nid cwbl debyg i neb a adwaen. Corff mawr, rhyw bump a deg o daldra, mynwes lawn, lydan, ysgwyddau trwm, crwm. Talcen uchel a llyfn, a ffurf pen yn tebygu i eiddo Mynyddog. Gwegil llawn a thrwchus megis eiddo Herber Evans. Wyneb tyner fel gwanwyn; llygaid fel pe'n bygwth chwerthin fynychaf, rhywbeth lleddf, dwys, pell, ynddynt ar brydiau. Wyneb digon tebyg i wyneb İslwyn, ond cryfach gên, lletach genau, a barf gras-