Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goch. Cynefin yr wyneb yw tawelwch y mynydd ar hindda, eithr gwelais ynddo unwaith neu ddwy gynddaredd arswydus ystorm fawr.

Nid adwaenir Wmffre Dafydd fel na bardd na cherddor, na dim arall ond Bugail Lluest Hir. Eithr ni phraw hynny nad oes yn ei enaid ddeunydd cân a phroffwydoliaeth. Yr unig beth a bair imi feddwl na wnâi fardd pes mynnai ydyw, ei synnwyr cyffredin cryf. Bodau anghyffredin o ran synnwyr a doethineb yw'r beirdd mawr; dynion athrylithgar ydynt, ar y llinell derfyn rhwng call ac angall. Sieryd Wmffre'n hwylus â llais dwfn, a'i Gymraeg yn lled loyw a llwythog o arabedd byw a chymen. Yn lluestau diarffordd godre Pumlumon y lleferir y Gymraeg orau heddiw. Anaml y ceir nebo na thref na phentref yn "talu ymweliad " â chartref bugail i holi hanes y mynedol"; ac yn y wlad hon, rhandir bellter o bymtheg milltir o hyd ac ugain ar draws, i'r de o'r hen fynydd, y lleferir tafodiaith orau Cymru, oblegid hi ydyw'r unig dafodiaith a ddeellir gan drigolion pob rhan o'r wlad.

Treuliodd Wmffre'i ddyddiau bore dipyn yn rhydd a gwyllt. Dau blentyn oedd yn Lluest Hir, mab a merch, Bu'r ferch farw pan oedd yn bedair oed, a daethai'r mab yn eilun ei rieni; ac fel y digwydd fynychaf pan addolir plentyn, ef yn fuan ydoedd arglwydd y cartref, a chawsai'i ffordd ei hun ym mhopeth. Tyfu'n wyllt a hanner segur a wnaeth. Ni thybiaf wrth hyn yr arferai feddwi a godinebu a lladrata. Nid oedd cyfleusterau i'r ddau gyntaf ar ben